Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 5
Dyddiad: Dydd Llun, 16 Ionawr 2023
Amser:
14.30 -
17.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13174
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS
|
Tystion: |
Jane Hutt AS Hannah Blythyn AS Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Sian Gill, Pennaeth Adrodd Ariannol, Llywodraeth Cymru Maureen Howell, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwil) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. O dan Reol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Sarah Murphy AS ddatganiad o fuddiant.
2 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau. Mewn perthynas ag Eitem 2.8, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu i ofyn am wybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas yr Ynadon.
2.1 Llythyr gan y Llywydd at yr holl Aelodau ynghylch blaenoriaethu busnes pwyllgorau
2.2 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at Gadeiryddion pwyllgorau ynghylch craffu ar gyllideb ddrafft 2023-24
2.3 Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cadeirydd ynghylch y Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
2.4 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
2.5 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y gweithlu gofal plant
2.6 Gohebiaeth rhwng y Prif Weinidog a’r Pwyllgor Cyllid ynghylch craffu ar oblygiadau ariannol Biliau
2.7 Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Luke Fletcher at y Cadeirydd ynghylch ail gyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE
2.8 Llythyr gan Gymdeithas yr Ynadon at y Cadeirydd ynghylch tystiolaeth ychwanegol
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o eitemau 4, 5, 6 ac 8 o’r cyfarfod.
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
4 Blaenraglen waith
Trafododd yr Aelodau'r flaenraglen waith a chytuno arni.
5 Ymchwiliad i gyfiawnder data: Trafod penodi cynghorydd arbenigol
Trafododd y Pwyllgor benodi cynghorydd arbenigol a chytuno arno.
6 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus Trefn y Broses Ystyried - cytuno cyn trafodion Cyfnod 2
Cytunodd yr aelodau ar Drefn y Broses Ystyried.
7 Cyllideb Ddrafft 2023-24: sesiwn dystiolaeth weinidogol
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:
Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
Sian Gill, Pennaeth Adrodd Ariannol
8 Cyllideb Ddrafft 2023-24: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a chytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am ragor o eglurhad mewn perthynas â rhywfaint o'r dystiolaeth a glywyd. Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.